Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 30/01/2020 i'w hateb ar 04/02/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwygiadau i gymorth i fyfyrwyr mewn prifysgolion?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi plant sydd mewn tlodi yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi adfywio trefi yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyfforddi a recriwtio ymgynghorwyr meddygol ar gyfer ysbytai?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu'r gronfa gofal integredig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Nghanol De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch statws cyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau meddygon teulu yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio a hyfforddi deintyddion?
A yw'r Prif Weinidog wedi asesu sut y gallai cymhwyso'r un trothwy ardrethi busnes â Lloegr fod o fudd i'r stryd fawr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau unedau mân anafiadau yng Nghymru?