Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 27/02/2020 i'w hateb ar 03/03/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rhagolygon cyflogaeth y rhai sy'n gadael yr ysgol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r cymoedd gogleddol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hunan-niweidio yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r cynlluniau i symud gweithrediadau'r Cynulliad i ogledd Cymru am wythnos?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella'r broses o reoli llifogydd yn Nyffryn Conwy yn dilyn stormydd diweddar?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr heriau sy'n wynebu trigolion Gorllewin Caerdydd ar hyn o bryd o ganlyniad i waith sy'n gysylltiedig â chynllun datblygu lleol Caerdydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau ailgylchu yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ers etholiad cyffredinol y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y caiff gwariant cyfalaf rhanbarthol yn cael ei ddyrannu?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yr effeithiodd y llifogydd diweddar arnynt?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn Rhondda Cynon Taf?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r gymuned Nigeraidd yng Nghymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i annog y sector gwirfoddol i geisio am dendrau'r sector cyhoeddus?
Pa gamau y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu cymryd i wella cydlyniant cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddoli a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru?