Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 28/03/2019 i'w hateb ar 02/04/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gladdu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth integredig o fewn Gorllewin De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael i gryfhau atebolrwydd prifysgolion?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau'r GIG yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r cod gweinidogol yn rheoli mynediad at Weinidogion Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod barn y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn cael ei hystyried wrth wneud penderfyniadau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i gynyddu argaeledd hyfforddiant galwedigaethol a'r nifer sy'n ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am helpu busnesau lleol i ennill mwy o gontractau caffael cyhoeddus?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth y diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd practisau meddygon teulu yng nghanolbarth Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cadwyni cyflenwi lleol cryf drwy'r system gynllunio?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth twristiaeth i economi Islwyn?
Cwnsler Cyffredinol
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar gydgyfnerthu'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn ymgorffori hawliau dinasyddion Cymru i herio penderfyniadau amgylcheddol ar ôl Brexit?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella'r modd y diogelir hawliau dynol ar gyfer dinasyddion yng Nghymru ar ôl Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch a oes gan y Cynulliad bwerau deddfu mewn perthynas â newid y llw teyrngarwch?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am waith adran gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Addysg o ran y camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wella'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008?