Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/04/2019 i'w hateb ar 01/05/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Addysg

1
OAQ53770 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safonau addysg yn ysgolion Cymru?

 
2
OAQ53777 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau a roddir i awdurdodau addysg lleol ynghylch sicrhau bod digon o amser yn y diwrnod ysgol i ddiwallu anghenion iechyd a lles disgyblion?

 
3
OAQ53779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sy'n defnyddio iaith arwyddion Prydain mewn ysgolion?

 
4
OAQ53776 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella hawliau plant i gael addysg am rywioldeb a chydberthynas ym mhob ysgol?

 
5
OAQ53782 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o rai ysgolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn cau amser cinio dydd Gwener?

 
6
OAQ53785 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod ysgolion yn cael eu hariannu'n ddigonol?

 
7
OAQ53774 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw myfyrwyr yng Ngogledd Cymru ar ôl cwblhau addysg bellach?

 
8
OAQ53761 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y system addysg yn darparu'r sgiliau sy'n ofynnol i gefnogi economi Cymru?

 
9
OAQ53772 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y caiff athrawon cyflenwi eu contractio yng Nghymru?

 
10
OAQ53764 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i fanteisio ar hyfforddiant anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer athrawon?

 
11
OAQ53775 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn egluro pwy sy'n gyfrifol am fonitro canllawiau Blas am Oes mewn perthynas â phrydau ysgol?

 
12
OAQ53758 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Bagloriaeth Cymru?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ53765 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at feddygon teulu ym Mlaenau Gwent?

 
2
OAQ53783 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglenni sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru?

 
3
OAQ53773 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Ngogledd Cymru?

 
4
OAQ53771 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai ar gyfer cleifion yng ngogledd Cymru?

 
5
OAQ53744 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?

 
6
OAQ53756 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal iechyd trawsffiniol yng ngogledd Cymru?

 
7
OAQ53762 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau rheoli poen ar gyfer y rhai sy'n dioddef o gyflyrau poen cronig yng nghanolbarth Cymru?

 
8
OAQ53755 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer yr achlysuron y mae ambiwlansys wedi gorfod aros am fwy na 10 munud mewn ysbytai yng Ngorllewin De Cymru cyn gallu rhyddhau eu cleifion?

 
9
OAQ53748 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal sylfaenol yn Ninas a Sir Abertawe?

 
10
OAQ53787 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella amseroedd aros ysbytai?

 
11
OAQ53784 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau newyddenedigol yng Nghymru?

 
12
OAQ53767 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch materion yn ymwneud â chyllid trawsffiniol yn dilyn penderfyniad Ysbyty Iarlles Caer i wrthod atgyfeiriiadau dewisol o Gymru?