Cynigion i’w trafod ar 11/03/2020
NDM7238 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 16/01/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod diagnosis cynnar o ganser yn gwella cyfleoedd goroesi.
2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob cenedl gael strategaeth ar ganser.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer canser yn cynnwys mwy o bwyslais ar ddiagnosis cynharach i gleifion ac iddo fod ar waith pan ddaw'r cynllun presennol i ben yn 2020.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am ganser.
NDM7247 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ddarparu archwiliad cyfle cyfartal ar gyfer cwmnïau sy'n cael grantiau Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwella ac annog cyfle cyfartal yn y sector preifat yng Nghymru; a
b) adeiladu ar ganfyddiadau Gwaith Teg Cymru: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg.
Cyflwynwyd gan
NDM7294 - Dadl Fer
Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020Tynged y meysydd glo: effaith datganoli ar gymunedau'r meysydd glo; yr heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd a rhai cwestiynau ynghylch eu ffyniant yn y dyfodol.
Cyflwynwyd gan
NDM7295 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Pleidleisio drwy Ddirprwy' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12 a gwneud newidiadau canlyniadol i Reol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â bod yn weithredol ar 6 Ebrill 2021.
Cyflwynwyd gan
NDM7296 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG.
2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi cadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
3. Yn cydnabod bod recriwtio yn allweddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
4. Er mwyn helpu recriwtio, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i ddiddymu'r penderfyniad a wnaed yn 2014 i ddileu'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel rhan o Raglen De Cymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
a) yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn ardaloedd daearyddol yng Nghymru;
b) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg;
c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd;
d) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio, ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei fwrdd;
e) nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi penderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Chwefror 2020 mewn cysylltiad â chadw gwasanaethau brys 24 awr o dan arweiniad ymgyngorydd meddygol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o ymarferion ailstrwythuro blaenorol byrddau iechyd ac nad yw wedi sicrhau bod byrddau iechyd hefyd wedi cadw at yr egwyddorion ar ymgysylltu cyhoeddus sydd wedi’u diogelu yn 'Cymru Iachach'.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymgynghori â'i gymunedau mewn modd amserol a chynhwysol.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder, dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgynghorwyr meddygol adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Cyflwynwyd gan
NDM7297 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2020 | I'w drafod ar 11/03/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon o bob math i hunaniaeth ddiwylliannol a sifig Cymru.
2. Yn credu y dylai’r gallu i fwynhau chwaraeon fod mor hygyrch â phosib i’r ystod ehangaf o boblogaeth ein cenedl.
3. Yn pryderu am yr adroddiadau y bydd y darllediadau o gemau rygbi’r chwe gwlad ond ar gael i’w gwylio ar sail talu-wrth-wylio yn y dyfodol.
4. Yn credu bod mynediad at ddarllediadau rygbi cenedlaethol yn allweddol i sicrhau bod pobl ifanc yn cyfranogi mewn rygbi llawr gwlad.
5. Yn credu y dylai darllediadau gemau rygbi chwe gwlad Cymru barhau i fod ar gael i’w gwylio am ddim i bawb ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau hyn.