NDM9314 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 05/10/2026 | I'w drafod ar 11/11/2026

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu ac atgyfnerthu, fel y bo angen, y fframwaith cynllunio sy'n ymwneud â datblygu chwareli yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) cyflwyno gofyniad am adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregiadau (MTAN 1) a gyhoeddwyd yn 2004, a'i effeithiolrwydd wrth amddiffyn cymunedau sy’n byw yn agos at chwareli;

b) ei gwneud yn ofynnol i'r adolygiad asesu digonolrwydd y mesurau diogelu presennol, gan gynnwys yr effeithiau ar yr amgylchedd, bioamrywiaeth ac iechyd y cyhoedd, a gaiff gwaith chwarel a gweithgareddau cysylltiedig sy’n agos at aneddiadau, gan roi sylw i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

c) cyflwyno gofyniad penodol i ystyried cynyddu’r parth clustogi rhwng aneddiadau â phob chwarel newydd a phresennol; a

d) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi casgliadau'r adolygiad a'r cynigion ar gyfer atgyfnerthu amddiffyniadau cynllunio.

Cefnogwyr