NDM9164 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 17/02/2026 | I'w drafod ar 25/02/2026Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y pwysau parhaus ar y GIG yng Nghymru, gan gynnwys amseroedd aros gormodol am driniaeth, oedi o ran ymateb ambiwlansys, adrannau brys gorlawn, a'r defnydd o ofal mewn coridor;
b) pryderon a godwyd gan glinigwyr a chleifion ynghylch diogelwch a chapasiti ar gyfer cleifion ar draws system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru; ac
c) yr angen am weithredu brys, system gyfan i adfer perfformiad a hyder y cyhoedd.
2. Yn gresynu bod perfformiad y GIG yng Nghymru, ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran amseroedd aros a mynediad at driniaeth.
3. Yn credu bod maint yr her yn gofyn am ymateb brys i gynyddu capasiti, gwella llif cleifion a chryfhau gwytnwch ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datgan argyfwng iechyd cenedlaethol i sbarduno gweithredu ar unwaith ar draws y GIG a gofal cymdeithasol;
b) ailagor wardiau ysbytai cymunedol caeedig i ddarparu gofal cam-i-lawr ac adsefydlu, a gwella llif cleifion;
c) adolygu a chynyddu capasiti gwelyau ysbyty a darpariaeth ymchwydd;
d) sefydlu tîm adfer pwrpasol i GIG Cymru i hyrwyddo gwelliannau mewn amseroedd aros a pherfformiad gofal brys;
e) dod â'r arfer o ofal mewn coridor i ben a dynodi aros 12 awr mewn adrannau brys fel digwyddiadau "byth";
f) gwella recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon, deintyddion, nyrsys a bydwragedd;
g) ehangu canolfannau llawfeddygol a chapasiti diagnostig i leihau rhestrau aros;
h) gwella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys argaeledd apwyntiadau saith diwrnod; ac
i) cyhoeddi cynllun gweithlu a seilwaith hirdymor i foderneiddio'r GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru.