NDM9072 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 02/12/2025 | I'w drafod ar 17/12/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu'r ffaith mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros hawl plant i chwarae, ac mai Caerdydd yw'r ddinas gyntaf yn y DU i gael ei hachredu gan UNICEF yn Ddinas sy'n Dda i Blant.

2. Yn cydnabod bod ardaloedd chwarae gyda siglenni, llithrenni ac offer arall i chwarae yn bwysig iawn i blant o dan 11 oed.

3. Yn nodi bod adroddiad 'Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru: 2025' gan Chwarae Cymru wedi canfod bod offer chwarae mewn sawl ardal yn cael eu disgrifio fel rhai hen, wedi torri neu'n addas ar gyfer plant iau yn unig, a bod llawer wedi galw am fuddsoddi mewn mannau i blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig yn Ynys Môn, Sir Ddinbych a Chaerffili.

4. Yn gresynu bod boddhad cyffredinol â chyfleoedd i chwarae wedi gostwng o 84 y cant yn 2019 i 71 y cant yn 2025, ac na chaniateir i nifer nodedig o 25 y cant chwarae'n annibynnol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu mynediad plant i chwarae drwy:

a) cryfhau'r ddyletswydd o dan adran 11 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 fel bod yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau digon o gyfleoedd chwarae mewn maes chwarae ar gyfer pob cymuned;

b) datblygu ffyrdd o roi cyhoeddusrwydd i leoedd diogel a lleol i chwarae;

c) diogelu meysydd chwarae rhag toriadau awdurdodau lleol;

d) cefnogi grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am feysydd chwarae; ac

e) mynd i'r afael â'r ffaith bod gan blant, yn enwedig anabl, mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig yn aml fwy o fynediad at fannau awyr agored, ond yn wynebu mwy o broblemau o ran cynnal a chadw, hygyrchedd a chynhwysiant.