NDM9044 - Cynnig ar gyfer dadl gan Bwyllgor

Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025 | I'w drafod ar 12/11/2025

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith: Ymateb i stormydd diweddar, a osodwyd ar 9 Medi 2025.

Noder: Cafodd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2025. Ymatebodd Cyfoeth Naturiol Cymru i'r Pwyllgor ar 22 Hydref 2025.