NDM8984 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025 | I'w drafod ar 24/09/2025

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am ddim yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael ei ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant.

2. Yn gresynu, ers etholiad y Senedd 2021 a Chytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru:

a) bod dros 38,000 o bobl Cymru wedi marw tra'n aros am driniaeth y GIG; a

b)  bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua traean.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal rhagor o farwolaethau diangen drwy:

a) datgan argyfwng iechyd i gyfeirio adnoddau a chyfarpar Llywodraeth Cymru tuag at dorri rhestrau aros y GIG;

b) gwarantu uchafswm o flwyddyn i aros am driniaethau;

c) cyflwyno gwarant o saith diwrnod o aros am apwyntiad meddyg teulu;

d) cynnal cynllun cynhwysfawr o recriwtio a chadw ar gyfer GIG Cymru;

e) adeiladu rhagor o ganolfannau llawfeddygol ac ehangu canolfannau diagnostig cyflym;

f) adfer dewis y claf o ran lle y gall gael mynediad at ofal iechyd; a

g) lansio cynllun gweithredu ar gyfer canser.