NDM8973 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 10/09/2025 | I'w drafod ar 17/09/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cyllideb hydref Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Lafur y DU a'r "bartneriaeth mewn pŵer" rhyngddi hi a Llywodraeth Cymru i:
a) darparu unrhyw gyllid canlyniadol i Gymru o brosiect HS2;
b) datganoli Ystâd y Goron yng Nghymru, er bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn cefnogi ei ddatganoli;
c) disodli'r hen fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy’n seiliedig ar anghenion; a
d) darparu gwelliannau diriaethol i bobl Cymru i ymdopi â phwysau costau byw.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, i’r gyllideb gynnwys:
a) gwrthdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;
b) gweithredu mesurau trethiant tecach, gan gynnwys:
(i) treth cyfoeth o 2 ar asedau dros £10 miliwn; a
(ii) unioni cyfraddau treth enillion cyfalaf â threth incwm.
c) ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gydag ymrwymiad i ddarparu £4 biliwn o gyllid canlyniadol i Gymru;
d) amserlen glir ar gyfer datganoli Ystâd y Goron i Gymru;
e) ymrwymiad i ddisodli fformiwla Barnett gyda fframwaith ariannu sy'n seiliedig ar anghenion;
f) ymrwymiad i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn;
g) grantiau cymorth ynni wedi'u targedu i aelwydydd mewn tlodi tanwydd, yn debyg i Gynllun Cymorth Biliau Ynni 2022–23; a
h) cyflwyno gwarant hanfodion i sicrhau bod y rhai sydd ar yr incwm isaf yn gallu fforddio anghenion sylfaenol.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd cyllideb hydref Llywodraeth y DU yn cael ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth Lafur y DU a Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chyflawni ar gyfer pobl Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gofynion brys ar Lywodraeth Lafur y DU, ac i gyhoeddi'r ohebiaeth, i’r gyllideb gynnwys:
a) gwrthdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;
b) gwrthdroi'r dreth fferm deuluol;
c) ailddosbarthu HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, gydag ymrwymiad i ddarparu cyllid canlyniadol i Gymru;
d) ymrwymiad i gychwyn adolygiad o fframwaith cyllidol Cymru; ac
e) agenda torri trethi i gefnogi busnesau a chreu swyddi.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.