NDM8959 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 08/07/2025 | I'w drafod ar 15/07/2025Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21 (ii):
Yn nodi:
a) y cynnydd sydd wedi’i wneud ar gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth:
i. gwell iechyd;
ii. mwy o swyddi;
iii. gwell trafnidiaeth; a
iv. mwy o gartrefi;
b) y cynnydd ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Yn is-bwynt a), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'.
Cyflwynwyd gan
Yn is-bwynt b), cyn 'cynnydd', ychwanegu 'diffyg'
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni ei blaenoriaethau drwy:
a) methu targedau rhestrau aros dwy flynedd olynol y GIG;
b) gadael Cymru ar waelod y tablau cyflogau cyfartalog gros;
c) methu â sicrhau'r £4bn o arian canlyniadol rheilffordd HS2;
d) peidio â gwrando ar rybuddion na fydd yn cyrraedd y targed cartrefi cymdeithasol; ac
e) gwneud tro pedol ar ymrwymiadau a wnaed yn ei rhaglen ddeddfwriaethol.