NDM8911 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2025 | I'w drafod ar 04/06/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 8 Mehefin 2025 yn nodi deng mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi dan fesurau arbennig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r gwelliannau sydd wedi’u gwneud hyd yma o dan y gyfundrefn mesurau arbennig a'r gwaith sydd ar ôl o hyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei wneud, fel y nodwyd yn yr adroddiad cynnydd dwy flynedd a gyhoeddwyd fis Mawrth.
Mesurau arbennig (lefel 5) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: adroddiad cynnydd blwyddyn 2
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn canmol gwaith caled staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan amodau heriol tu hwnt.
Yn gresynu:
a) bod y gwaith caled hwn wedi’i danseilio gan gamweithredu cronig hanesyddol ar lefel y bwrdd dros nifer o flynyddoedd, yn ogystal â’r methiannau a’r diffyg tryloywder yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y fframwaith mesurau arbennig - gan gynnwys tynnu’r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig yn gynamserol yn 2020 er hwylustod gwleidyddol; a
b) bod trigolion gogledd Cymru yn wynebu amseroedd aros anghymesur am driniaeth o gymharu â gweddill Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion adroddiad Plaid Cymru ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’ yn llawn, i wella mecanweithiau llywodraethu ac atebolrwydd yn Betsi Cadwaladr - gan gynnwys diwygio’r fframwaith mesurau arbennig a sefydlu rheolau ymgysylltu safonol ar gyfer uwch arweinwyr i sicrhau na chaiff trefniadau atebolrwydd eu tanseilio na’u gweithio o amgylch.
Adroddiad Plaid Cymru ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’