NDM8763 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2024 | I'w drafod ar 11/12/2024

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu, er mwyn adeiladu dyfodol gwell i'w phobl, y dylai Cymru gael o leiaf yr un pwerau datganoledig â'r Alban.

Gwelliannau

NDM8763 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 05/12/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth Cymru yn methu â sicrhau dyfodol gwell i bobl Cymru, ac y dylai wneud gwell defnydd o'r pwerau datganoledig sydd ar gael i Gymru.

NDM8763 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2024

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn derbyn casgliadau ac argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru trawsbleidiol, sy’n darparu agenda ddiwygio uchelgeisiol gyda thystiolaeth dda i’w chefnogi, sydd wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion Cymru.

Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol