NDM8748 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024 | I'w drafod ar 27/11/2024

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr 2024.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu economïau lleol ledled Cymru.

3. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad maniffesto drwy godi cyfraniadau yswiriant gwladol ac yn nodi bod Consortiwm Manwerthu Prydain a 79 o arweinwyr manwerthu amlwg wedi dweud y bydd y cynnydd yn arwain at brisiau uwch, swyddi'n cael eu colli, a niwed i lefelau buddsoddi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i wneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU o blaid gwyrdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol; a

b) dychwelyd rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau bach a diogelu swyddi.

Gwelliannau

NDM8748 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2024

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr Hydref er mwyn ceisio sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad.

Yn cydnabod bod rhyddhad ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig wedi bod ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers pum mlynedd yn olynol, am gost o £1 biliwn, ynghyd â phecyn blynyddol Llywodraeth Cymru o ryddhad ardrethi parhaol gwerth £250 miliwn.