NDM8723 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 06/11/2024 | I'w drafod ar 08/01/2025Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil cipio anifeiliaid anwes.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) gwneud cipio anifail anwes yn drosedd benodol yng Nghymru;
b) cydnabod nad gwrthrychau difywyd yw cathod a chŵn ond bodau ymdeimladol sy'n gallu profi trallod a thrawma emosiynol arall;
c) cydnabod y trallod sylweddol ac unigryw a achosir i berchennog pan gaiff anifail anwes ei ddwyn; a
d) dod â deddfwriaeth Cymru yn gyfartal â deddfwriaeth yn Lloegr.