NDM8194 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2023 | I'w drafod ar 07/02/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2022.

Gwelliannau

NDM8194 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 02/02/2023

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.

NDM8194 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 02/02/2023

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf.

Cyflwynwyd gan