NDM8028 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2022 | I'w drafod ar 13/07/2022Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod nifer sylweddol o weithwyr o Gymru yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau a fydd yn cael eu newid yn sylweddol fel rhan o'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon;
b) pwysigrwydd sicrhau newid teg i economi ddi-garbon;
c) cynllun peilot incwm sylfaenol parhaus Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sut y gellid ymestyn y cynllun peilot incwm sylfaenol i weithwyr yn y diwydiannau hyn er mwyn llywio'r broses o drosglwyddo Cymru i economi ddi-garbon.