NDM7440 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid
Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2020 | I'w drafod ar 21/10/2020Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi sicrwydd amserol i ddisgyblion ac athrawon drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru yn haf 2021 a bydd asesiad gan athrawon yn digwydd yn lle hynny;
b) sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system asesu a chymwysterau ddiwygiedig yng Nghymru sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru drwy ddileu arholiadau hen ffasiwn TGAU a Safon Uwch.
c) sicrhau bod pob disgybl yn gadael y system addysg yn ddinasyddion dwyieithog, drwy:
i) cymryd camau pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy gynyddu addysg gyfrwng Cymraeg ym mhob sector a chyfnod dysgu; a
ii) ymrwymo i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg;
d) sicrhau bod gan bob disgybl ddealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth amrywiol Cymru, drwy wneud hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw sy’n rhan annatod o hanes Cymru;
e) cynnal hawliau pob disgybl yn ardal Pontypridd ac mewn mannau eraill i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned eu hunain ac o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi drwy hyrwyddo'n eang y cynseiliau sy'n deillio o ddyfarniad y llys gweinyddol yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â sicrhau yr ymgymerir ag asesiadau effaith iaith Gymraeg yn briodol mewn cynigion i ad-drefnu ysgolion;
f) blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr drwy sicrhau bod meysydd dysgu ac arbenigedd iechyd meddwl a lles yn cael sylw dyledus yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, a monitro tueddiadau tymor canolig a hirdymor yn y ddarpariaeth iechyd meddwl o fewn ysgolion;
g) cefnogi myfyrwyr addysg bellach sy'n dysgu gartref, a hynny ar frys, drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at ddarpariaeth band eang ac offer digonol, ac asesu ar frys yr angen i ailagor lleoedd gwaith cyhoeddus yn ddiogel i fyfyrwyr na allant weithio gartref;
h) atal prentisiaid rhag llithro i dlodi drwy warantu amddiffyniadau cyflog llawn pan fo gweithleoedd yn cael eu cau, a darparu cymorth/arweiniad ychwanegol os cânt eu diswyddo;
i) cynnal hawliau cyfreithiol myfyrwyr drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill y cyhoedd o ran cyfyngiadau COVID-19, gan gynnwys gwarant y gall myfyrwyr ddychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith drwy brofion.
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Penderfyniadau Uchel Lys Cymru a Lloegr : Gyrrwr yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf [2020] (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 wedi tarfu ar addysg disgyblion.
Yn cydnabod ymrwymiad a hyblygrwydd yr holl staff sy'n darparu addysg yn ystod pandemig COVID-19.
Cyflwynwyd gan
Dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:
'cymryd pob cam i sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn cael cyfle i sefyll arholiadau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod y flwyddyn ysgol hon, gan gynnwys os caiff y flwyddyn ysgol ei hymestyn;
pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud penderfyniad ynghylch a fydd arholiadau'n mynd rhagddynt, gyda'r dyddiadau'n caniatáu i system gredadwy a chadarn o raddau asesu canolfannau a gymedrolir yn allanol gael ei gweithredu yn lle hynny;'
Cyflwynwyd gan
Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl pwynt (c) ac ailrifo'n unol â hynny:
'sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system well o asesu a chymwysterau cyffredinol sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru a thrwy fynediad i gyrsiau sy'n arwain at gymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig;'
Cyflwynwyd gan
Dileu is-bwynt (c) (i) a rhoi yn ei le:
'cyflwyno cod continwwm Iaith Gymraeg i gynorthwyo ymarferwyr i gyflawni'r nod o wella rhuglder drwy'r cwricwlwm;'
Cyflwynwyd gan
Cynnwys is-bwynt (c)(ii) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
'derbyn y dyfarniad yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
Cyflwynwyd gan
Dileu is-bwynt (e) ac ailrifo'n unol â hynny.
Cyflwynwyd gan
Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (g) ac ailrifo yn unol â hynny:
'adlewyrchu argymhellion yr adroddiad Cadernid Meddwl ac arsylwadau'r Comisiynydd Plant yn well wrth gyflwyno'r cwricwlwm, a monitro canlyniadau;'
Cyflwynwyd gan
Dileu is-bwynt (h) ac ailrifo'n unol â hynny.
Cyflwynwyd gan
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'gwneud datganiad brys ar y cymorth a ddarperir i brentisiaid a hyfforddeion.'
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i dderbyn dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn y cyngor ac i weithio gyda rhieni, athrawon, disgyblion a’r gymuned leol i ganfod ffordd amgen ymlaen mewn perthynas â chynigion ad-drefnu addysg yn nalgylch Pontypridd.