NDM7427 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Wedi’i gyflwyno ar 07/10/2020 | I'w drafod ar 21/10/2020

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:

a) Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;

b) awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol at ddiffibrilwyr cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;

c) Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i bobl ledled Cymru;

d) byrddau iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty; ac

e) Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn erbyn amcanion bob blwyddyn.