NNDM7321 - Cynnig Heb Ddyddiad Trafod
Wedi’i gyflwyno ar 27/04/2020Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymryd pob cam angenrheidiol i gydbwyso ei gyfrifoldebau dros barhau i graffu ar y weithrediaeth, deddfu a chynrychioli buddiannau'r cyhoedd yng Nghymru.
2. Yn gweithredu yn unol â Rheol Sefydlog 12.56, ac yn cadw ati, ac yn galw am roi terfyn ar gymhwyso Rheol Sefydlog 34.18.
3. Yn caniatáu cyfranogi'n rhithwir yn nhrafodion y Cynulliad drwy ymestyn gallu digidol y trafodion hynny er mwyn sicrhau bod yr holl Aelodau yn cymryd rhan, gan sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y ceir triniaeth gyfartal rhwng yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn rhithwir a'r Aelodau sy'n cymryd rhan yn bersonol; ac yn gwneud hynny gan gadw at y canllawiau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r cyfyngiadau a roddir ar holl ddinasyddion Cymru.