NDM7288 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2020 | I'w drafod ar 04/03/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.

2. Yn credu:

a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda chyfraddau marwolaeth uchel;

b) bod gwellhad yn bosibl;

c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi adferiad.

3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.

4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.

5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.

Adolygiad Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta - Tachwedd 2018

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM7288 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach at yr amser i ddatblygu amseroedd aros am wasanaethau i oedolion a gwasanaethau plant a amlinellir yn ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Medi 2019.

Datganiad ysgrifenedig - Adolygiad o Wasanaethau Anhwylderau Bwyta Cymru - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 26 Medi 2019

NDM7288 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2020

Ym mhwynt 6, ar ôl 'i sicrhau' ychwanegu 'ar frys'.