NDM7243 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020 | I'w drafod ar 29/01/2020

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i Gymru.

2. Yn croesawu'r ffaith y bydd y Deyrnas Unedig, ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos hon.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau'r manteision gorau i Gymru o ran pysgodfeydd Cymru wrth i ni gwblhau'r broses Brexit.

Gwelliannau

NDM7243 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2020

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.

Cyflwynwyd gan

NDM7243 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2020

Dileu pwynt 2.

NDM7243 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y byddwn, ar ôl gadael yr UE, yn gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol, gan gymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd ym mis Rhagfyr 2020.

NDM7243 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i: cynyddu'r cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU drwy'r senedd bresennol, a chefnogi'r broses o adfywio ein cymunedau arfordirol.

NDM7243 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2020

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth bysgota newydd a fyddai'n seiliedig ar yr egwyddor o 'gynnyrch cynaliadwy mwyaf', ac a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc.

NDM7243 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2020

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod pwysigrwydd sylweddol yr Undeb Ewropeaidd fel cyrchfan ar gyfer cynnyrch bwyd môr Cymru ac yn ceisio sicrhau bod y farchnad hon yn parhau i fod ar agor ac yn hawdd cael gafael arni yn y dyfodol.

Yn galw ar fil pysgodfeydd arfaethedig Llywodraeth y DU i sicrhau bod deddfwriaeth y DU ac unrhyw ddeddfwriaeth ddatganoledig yn darparu rheolaeth pysgodfeydd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac atebol ac sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd morol ac yn cefnogi cymunedau sy'n ddibynnol ar yr arfordir.

Cyflwynwyd gan