NDM7205 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2019 | I'w drafod ar 27/11/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y DU sydd heb gofrestr lobïwyr.

2. Yn credu y byddai cofrestr lobïwyr yn helpu i hyrwyddo didwylledd a thryloywder yng ngwleidyddiaeth Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar unwaith ar weithredu cofrestr lobïwyr ar gyfer Cymru.

Gwelliannau

NDM7205 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2019

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae wedi'u cymryd ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.

Yn croesawu bwriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i roi ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Lobïo - Ionawr 2018