NDM7167 - Cynnig ar gyfer dadl gan Wrthblaid

Wedi’i gyflwyno ar 16/10/2019 | I'w drafod ar 23/10/2019

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol.

2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.

3. Yn nodi:

a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017;

b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter Cymru;

c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol Heriot-Watt;

4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Y Ceidwadwyr Cymreig – Mwy na Lloches yn Unig

Gwelliannau

NDM7167 - 1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Dileu pwyntiau 4 a 5.

NDM7167 - 2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

'Mae'r tueddiadau hyn wedi'u nodi yn Lloegr, lle mae hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau ymysg y rhai sy'n cysgu ar y stryd. '

NDM7167 - 3 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd.

NDM7167 - 4 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na chafodd angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd gyffredinol i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu bod hwn yn gyfle a gollwyd.

Deddf Tai (Cymru) 2014

NDM7167 - 5 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb. 

Crisis - Everybody In - How to End Homelessness in Great Britain 2018

NDM7167 - 6 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Sicrhau bod Deddf Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu allan a chardota.

 

Deddf Crwydradaeth 1824

NDM7167 - 7 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.  

NDM7167 - 8 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.

2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.

4. Yn nodi:

a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.

b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.

5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.

Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd: Adroddiad Hydref 2019

Strategaeth ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

Cyflwynwyd gan

NDM7167 - 9 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Dileu pwynt 2.

NDM7167 - 10 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod methiant holl Lywodraethau Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf i ddatrys digartrefedd yng Nghymru yn warth cenedlaethol.

NDM7167 - 11 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod dyblygu gwasanaethau, cyflogau uchel uwch reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â thoriadau i lywodraeth leol yng Nghymru yn gwneud sefyllfa lle mae digartrefedd eisoes yn wael yn waeth.

NDM7167 - 12 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Dileu pwyntiau 4 a 5.

NDM7167 - 13 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i dynnu pobl oddi ar y strydoedd.

NDM7167 - 14 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd.

NDM7167 - 15 | Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2019

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario yn y sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd.