Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi bod wrthi yn paratoi am y safonau yma am y ddwy flynedd ddiwethaf yma yng ngogledd Cymru. Rydym ni wedi gwneud gwaith arloesol yn barod. Rydw i wedi siarad yn barod am daith yr iaith. Cyfle oedd hwnnw i ymgysylltu â'n staff a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol, ond rydw i'n meddwl ein bod ni wedi gwneud gwaith da fel arall. Nid wyf yn or-bryderus ar hyn o bryd ynglŷn â'r safonau; mae'r gwaith rydym ni wedi ei wneud yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda.
Rhai o'r pethau buaswn i'n hoffi codi ymwybyddiaeth y pwyllgor amdanyn nhw ydy’r gwaith rydym ni wedi ei wneud ar y cynllun dewis iaith; mae hwnnw wedi bod yn gam mawr i ni. Rydym ni wedi bod yn defnyddio magnetau oren yn y wardiau uwchben y cleifion, fel petai, fel ein bod ni'n tynnu allan rhywfaint o'r pryder i'n cleifion ni. Mewn ffordd, mae'n rhoi cynnig rhagweithiol i'n cleifion, mae'n hwyluso i'n staff beth sy'n digwydd, ac mae'n gynllun ymarferol syml tu hwnt sydd yn codi ymwybyddiaeth ac yn normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg drwy gydol yr amser.
Mae'r gwaith rydym ni wedi ei wneud yn barod hefyd drwy 'Mwy na geiriau', y fframwaith prif ffrydio, mae hwnnw wedi ein helpu ni i symud ymlaen. Ac, wrth gwrs, wrth inni wneud ein cynlluniau IMTP, y cynlluniau integrated medium term plans, y cynlluniau tymor canolog, fel petai, mae hynny'n golygu ein bod ni'n paratoi am hyn drwy gydol yr amser. Ond, o ran y cleifion, mae'r gwaith rydym ni hefyd wedi ei wneud efo'n staff—'defnyddiwch eich Cymraeg' ydy'r cynllun sydd gyda ni yma yn Betsi Cadwaladr—yn eithaf syml, mewn ffordd. Fel yr oedd Sue yn ei ddweud, nid yw pobl yn or-hyderus am ddefnyddio'r mymryn o Gymraeg sydd gyda nhw, ond mae'r mymryn yna'n bwysig, ac mae hynny wedi bod yn gam positif iawn i ni.
Ond, wrth ochr hynny, mae gyda ni hefyd diwtor yma yng ngogledd Cymru. Rydym ni wedi buddsoddi yn y staff er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi ar gyfer y safonau, ac mae'r tiwtor yn barod wedi gweld dros 600 o aelodau o staff. A dweud y gwir, rydw i'n amau byddai'n gallu gweld llawer mwy. Mae gyda ni restr aros erbyn hyn ar gyfer y tiwtor. Beth sy'n bwysig ydy ei bod hi'n mynd i'r meddygfeydd, mae hi'n mynd i'n wardiau ni, mae'n mynd i'r lle gwaith a'i wneud o'n haws i'n timau ni, er mwyn normaleiddio, codi ymwybyddiaeth. Wrth gwrs, mae yna nifer o staff wedyn yn dewis gwella eu hiaith nhw a gloywi iaith a symud ymlaen, ac rydym ni'n gwybod y bydd hynny'n helpu ansawdd y gofal. Wedyn, mae gyda ni enghreifftiau da.
Roeddech chi'n sôn am ofal cychwynnol ynghynt fel GP, ac wrth gwrs mae hwnnw'n faes sydd yn heriol i ni. Ond mae yna waith da wedi ei wneud yn barod. Rydym ni wedi gwneud gwaith targedu. Mi fedraf i feddwl am un feddygfa yn arbennig ym Motwnnog ac maen nhw wedi bod yn esiampl rhagorol fel practis sydd wedi cymryd y cyfle i weithio efo ni ond i hefyd wneud yn siŵr eu bod nhw yn croesawu'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi a'u bod nhw erbyn hyn yn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn hollol weladwy o fewn y practis, o'r cortynnau rownd gyddfau'r staff i'r arwyddion yn ddwyieithog. Mae hynny’n dangos bod y Gymraeg, mewn ffordd, ar yr un un lefel â Saesneg ac yn hollol normal. Dyna’r gwaith rydym eisiau ei symud ymlaen i’r dyfodol.
Thank you very much. We've been preparing for these standards for the past two years here in north Wales. We have already done some innovative and groundbreaking work. I've already spoken about taith yr iaith. That was an opportunity to engage with our staff and to raise awareness more generally, but I do think that we've done some good work elsewhere too. I'm not overly concerned at the moment about the standards; the work that we have done has placed us in a strong position.
Some of the things that I would like to bring to the committee's attention is the work that we have done on the language of choice programme; that has been a big step for us. We have been using orange magnets in the wards above our patients, as it were, so that we can take away some of the concern for our patients. In a way, it provides our patients with a proactive offer, it informs our staff of what is happening, and it's a very simple, practical scheme that raises awareness and normalises the use of the Welsh language.
The work that we have already done through the 'More than just words' framework, the mainstreaming framework, has helped us to move forward. And, of course, as we carry out our IMTP, the integrated medium term plans, that has meant that we are continually preparing for these requirements. But, in terms of the patients, the work that we've also done with our staff—a scheme 'called use your Welsh' within Betsi Cadwaladr—is quite simple, in a way. As Sue said, people aren't always confident about using the little Welsh that they have, but that little Welsh that they have is very important, and that's been a very positive step for us.
But, along with that, we also have a tutor here in north Wales. We have invested in our staff in order to prepare for the standards and the tutor has already seen over 600 staff members. I suspect that she could see far more. We have a waiting list now for work with that tutor. What's important is that she goes out to surgeries, she goes onto wards, she enters the workplace and makes it easier for our teams, in order to normalise the use of the Welsh language, to raise awareness. Then many staff choose to improve their language skills and move forward in that way. We know that that will improve the quality of care. So, we have some very positive examples.
You mentioned primary care as a GP, and of course that is a challenging area for us. But there has already been good work done there. We've done some targeting work. I can think of one particular surgery in Botwnnog that has been an exemplar as a practice and they've taken the opportunity to work with us, but also to ensure that they welcome the support available and that Welsh is very visible within the practice, from lanyards to bilingual signage. That means that the Welsh language is at the same level as English and is normalised within that surgery. That's the work that we want to proceed with for the future.