WAQ78750 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/08/2019

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a ddarparodd Llywodraeth Cymru gymorth ariannol i'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol ac os felly, faint o gymorth ariannol a ddarparwyd?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 28/08/2019

Cytunwyd yn 2017 y byddai Gweinidogion Cymru yn ymrwymo i fenter ar y cyd â The Celtic Manor Resort Ltd, at ddibenion adeiladu a gweithredu Canolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru. O ganlyniad i hynny, cafodd Gweinidogion Cymru 50% o gyfranddaliadau'r cwmni. Bydd y buddsoddiad cyfan o £20,986,470 gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ad-dalu'n llawn ar ôl i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i fod yn gyfranddaliwr.

Mae hwn yn weithgaredd masnachol ac, er nad oes amodau ffurfiol o ran y Gymraeg yn gysylltiedig â'r buddsoddiad, rydym wedi annog y cwmni i ymgorffori'r iaith yn gadarnhaol yn hunaniaeth y Ganolfan. I'r perwyl hwnnw, mae'r cwmni wedi cynnal cyfarfod cadarnhaol â swyddogion o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru, i ofyn am ganllawiau ar y ffordd orau o ymgorffori'r Gymraeg yn yr adeilad ac wrth gyfathrebu yng Nghymru. O ganlyniad, rhagwelir y bydd y cwmni nawr yn drafftio polisi iaith Gymraeg a'i roi ar waith.