Ymhellach i WAQ77773, ar ba ddyddiad y gwnaeth y Prif Weinidog ddirprwyo'r cyfrifoldeb dros y gwasanaeth sifil i'r Ysgrifennydd Parhaol?
Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 20/02/2019
Cafodd y cyfrifoldeb am faterion staffio’r gwasanaeth sifil eu diprwyo i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, yn 1999 a 2007, ac mae trefniant sefydlog fod yr Ysgrifennydd Parhaol yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb am faterion staffio pan benodir ef neu hi i’r swydd. Cafod y cyfrifoldeb hwnnw ei gynnwys yn yr hysbyseb pan recriwtiwyd ddiwethaf ar gyfer swydd yr Ysgrifennydd Parhaol.