WAQ77759 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/01/2019

Ymhellach i ymrwymiad Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 19 Medi 2018 i gyhoeddi contract masnachfraint Cymru a'r Gororau erbyn diwedd 2018, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau ble mae’r ddogfen ar gael?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 24/01/2019

Cyhoeddwyd Cytundeb Grant Gweithredwr a Phartner Datblygu Cymru a’r Gororau gan Trafnidiaeth Cymru ym mis Rhagfyr 2018. Gellir dod o hyd iddo ar-lein yma: https://tfw.gov.wales/cy/prosiectau/gwasanaeth-rheilffyrdd-cymru-ar-gororau