WAQ77394 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/11/2018

Pa gynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer sefydlu uned mamau a babanod i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng ngogledd Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 16/11/2018

Mae trafodaethau yn parhau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, fel comisiynydd y gwasanaeth presennol, wedi cael trafodaethau ar fwy nag un achlysur â GIG Lloegr, ond ni chytunwyd hyd yma ar unrhyw drefniadau pendant ar gyfer caffael gwelyau i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru. Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol yng ngogledd Cymru yn rhan o ddatblygu cynlluniau ar gyfer model lleol o asesu a throsglwyddo i wely arbenigol naill ai yn GIG Cymru neu GIG Lloegr, yn ôl yr angen. Cafodd papur sy'n cynnwys yr amrywiol opsiynau ac a oedd yn amlinellu'r costau ei anfon i Gyd-bwyllgor Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar 13 Tachwedd. 

 

Gofynnwyd i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y Cyd-bwyllgor. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar ddarparu unedau mamau a babanod i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Ionawr 2019.