WAQ77277 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/10/2018

Pwy sy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru ar daith i Japan i drafod datblygiad Wylfa Newydd yr wythnos hon, pwy sy'n talu'r costau teithio a beth yn union yw rhaglen a diben yr ymweliad?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 24/10/2018

Cafodd Llywodraeth Cymru ei chynrychioli gan un uwch swyddog ar ymweliad 4 diwrnod â Japan yr wythnos ddiwethaf fel rhan o ddirprwyaeth a wahoddwyd gan Horizon Nuclear Power a Hitachi. Llywodraeth Cymru a dalodd gostau teithio’r swyddog. Ymwelodd y ddirprwyaeth â nifer o osodiadau gweithgynhyrchu niwclear allweddol ac aeth ar daith o amgylch safle’r Uwch Adweithydd Dŵr Berw yn Shimane, gan fod y dechnoleg yn berthnasol i’r hyn y cynigir ei gosod yn natblygiad arfaethedig Wylfa Newydd. Roedd yr ymweliad yn cyd-daro â Thaith Fasnach amlsector gan Lywodraeth Cymru i Japan ac o’r herwydd roedd derbyniad masnach a buddsoddi ar gyfer busnesau yn Llysgenhadaeth Prydain yn rhan o’r rhaglen.