WAQ76955 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth am gyfrifiadau Llywodraeth Cymru o nifer y lleoedd yn yr ystâd carchardai fyddai eu hangen i ddiwallu anghenion Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus | Wedi'i ateb ar 09/08/2018

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am y mater hwn ac nid yw wedi ei ddatganoli i’r Cynulliad. Fodd bynnag, yn ôl y ffigurau diweddaraf i gael eu cyhoeddi, ar ddiwedd mis Ebrill 2018, roedd poblogaeth carchardai Cymru yn bedair mil dau gant a naw deg un.