WAQ76954 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu rhestr yn crynhoi’r holl ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwneud â charchardai yng Nghymru, gan fanylu ar bwnc yr ohebiaeth, ar gyfer y pum mlynedd diwethaf?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus | Wedi'i ateb ar 09/08/2018

Gan fod y cwestiwn hwn gyfystyr â chais Rhyddid Gwybodaeth, bydd yn cael ei drin felly ac yn cael ymateb o fewn yr amserlen benodedig.