WAQ76935 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2018

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 50 milltir yr awr ynghyd â mesurau eraill mewn pum lleoliad ar ffyrdd Cymru er mwyn gwella ansawdd aer?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 31/07/2018

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth â Chyfarwyddeb yr UE ar Ansawdd Aer yr Amgylchedd (2008/50/EC). Mae pum lleoliad ar ein rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd sy’n mynd y tu hwnt i lefel trothwy’r Gyfarwyddeb ar gyfer NO2 – 40 ug/m3, sef yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy, yr A483 ger Wrecsam, yr M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 (Port Talbot) a’r M4 rhwng cyffyrdd 25 a 26 (Casnewydd) a’r A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd. Mae ymchwiliadau manwl, gan gynnwys gwaith modelu sy’n defnyddio’r dull a amlinellir yn yr Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WeITAG), ar waith ar hyn o bryd er mwyn pennu’r mesurau sy’n ofynnol ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â’r Gyfarwyddeb cyn gynted â phosibl.  

 

Mae’r ymchwiliadau a’r gwaith modelu sydd wedi’u gwneud hyd yma wedi dangos y gallai cyflwyno terfynau cyflymder 50 milltir yr awr ymhob un o’r lleoliadau sicrhau gwelliannau ar unwaith o safbwynt ansawdd aer a gallent hefyd sicrhau cydymffurfiaeth â’r Gyfarwyddeb yn gynharach. Caiff effaith y terfynau cyflymder dros dro, a gyflwynwyd ym mis Mehefin, o safbwynt ansawdd yr aer ei monitro’n ofalus gan brofion ar ochr y ffyrdd. Bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio fel rhan o ymchwiliadau a gwaith modelu sy’n parhau ac a ddylai ddod i ben erbyn diwedd mis Awst. Y nod yw pennu’r mesur neu’r mesurau terfynol sy’n debygol o sicrhau cydymffurfiaeth o fewn yr amser byrraf posibl.

 

Mae’n rhaid i’n gwaith gydymffurfio â’r Gyfarwyddeb ar gyfer monitro ansawdd aer wrth ochr y ffyrdd ar y cefnffyrdd sy’n rhan o’r cynllun terfynau cyflymder dros dro. Cafodd holl fanylion yr astudiaethau eu cyhoeddi ar y cyd â’r ddogfen ymgynghori ar ansawdd aer ym mis Ebrill 2018 a byddwn yn adrodd ar waith arall sy’n parhau ar ddiwedd mis Awst 2018. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Mehefin 2018 ond gallwch weld y dogfennau drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://beta.llyw.cymru/mynd-ir-afael-chrynodiadau-nitrogen-deuocsid-ar-ymylon-ffyrdd-yng-nghymru

 

 

Ar sail y data modelu a’r monitorau aer ar ochr y ffyrdd, rydym wedi penderfynu cyflwyno terfynau cyflymder dros dro. Nid ar chwarae bach rydym yn gwneud hyn. Yn anffodus mae angen i ni weithredu ar fyrder ac adrodd ar hynt y gwaith o gydymffurfio â Chyfarwyddeb yr UE. Mae gennym rwymedigaethau cyfreithiol i’w bodloni ac felly mae angen sicrhau cydymffurfiaeth â therfynau cyfreithiol cyn gynted â phosibl.