WAQ76934 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/07/2018

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda chynghorau lleol ynglŷn â chynllun grant pwyntiau gwefru £2 filiwn?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 31/07/2018

Rydym yn ymwybodol o’r galw cynyddol am bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar draws Cymru. Mae oddeutu 500 o bwyntiau gwefru ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru ar hyn o bryd ond rydym yn cydnabod bod angen cynyddu’r nifer yma. O’r herwydd, mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £2 filiwn mewn pwyntiau gwefru ychwanegol ar gyfer cerbydau trydan. Mae swyddogion wrthi’n ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn, a’r nod yw creu pwyntiau gwefru cyflym.

 

Rydym yn cydweithio â phartneriaid er mwyn sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r arian yma a hefyd er mwyn cyflawni ein nodau llesiant. Byddwn yn anelu at sicrhau cymaint â phosibl o fuddsoddiad cynaliadwy gan y sector preifat mewn pwyntiau gwefru, er mwyn ategu ac ychwanegu at y buddsoddiad cyhoeddus hwn. Rydym yn awyddus i ddefnyddio’r cyllid hwn cyn gynted â phosibl ond mae angen deall yn well y cyfyngiadau, gan gynnwys materion yn ymwneud â’r grid, cyn symud ymlaen. Mae’r materion hyn wrthi’n cael eu hystyried mewn mwy o fanylder.

 

Mae swyddogion wedi cael trafodaethau cychwynnol â swyddogion yr awdurdodau lleol ynghylch dyrannu’r £2 filiwn. Byddant yn mynd i’r afael â’r opsiynau hynny ar sail yr opsiynau a fydd yn deillio o’r gwaith mapio strategol.