WAQ75887 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2018

Pa ganllawiau gwrthdaro buddiannau sydd mewn lle ar gyfer cyfarwyddwyr Trafnidaeth Cymru o ran unrhyw gysylltiad diweddar â chwmnïau sy'n ceisio am fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 20/02/2018

Mae gan Trafnidiaeth Cymru Bolisi Cyfrinachedd a Gwrthdaro Buddiannau ac mae gofyn i bob cyfarwyddwr gwblhau a llofnodi Datganiad Cyfrinachedd a Gwrthdaro Buddiannau.