WAQ70936 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2016

A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw dargedau a osodir gan Lywodraeth Cymru ers mis Medi 2013 i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 22/08/2016

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ynghylch dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Rhwng 2012 a 2016, bu inni ariannu prosiect er mwyn i ddau glwstwr o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2. Cyhoeddwyd gwerthusiad o’r prosiect hwnnw’n ddiweddar:
http://gov.wales/docs/caecd/research/2016/160119-review-project-encourage-welsh-medium-teaching-in-english-medium-primary-schools-cy.pdf

Nawr, rydym yn gweithio i weld pa wersi sydd i’w dysgu o’r prosiect ac i’w casglu ynghyd. Byddwn yn rhannu’r arfer da sy’n deillio o’r prosiect hwn ar draws ysgolion mewn cydweithrediad â’r Consortia.
Yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ar gyfer 2017-20, rhaid i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru nodi sut y byddant yn gwella’r ddarpariaeth Cymraeg Ail Iaith, a’r safonau. Hefyd, rhaid i Awdurdodau Lleol osod targedau ar gyfer gwneud gwelliannau ym mhob cyfnod allweddol.
Mae canllawiau a thempledi newydd wedi’u cyflwyno i Awdurdodau Lleol er mwyn iddynt ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer 2017-20 i gryfhau a datblygu eu darpariaeth addysg Gymraeg. Bydd cynllunio ar gyfer Cymraeg Ail Iaith yn elfen allweddol o’r broses hon a bydd y gwaith hwnnw’n destun craffu a herio o ran gwella safonau ac argaeledd.