OPIN-2018-0098 Dileu colofnau gwleidyddol o bapurau newydd Trinity Mirror (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1) yn gresynu at y penderfyniad i ddileu colofnau gwleidyddol o bapurau newydd Trinity Mirror;
2) yn nodi y gwnaed y newid hwn heb unrhyw hysbysiad neu waith ymgynghori;
3) yn credu y bydd hyn yn dileu sianel bwysig sy'n galluogi cynrychiolwyr lleol i gadw mewn cysylltiad â'u hetholwyr; a
4) yn ofni y bydd y penderfyniad hwn yn gwanhau'r ddealltwriaeth o wleidyddiaeth, ac o wleidyddiaeth ddatganoledig a gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arbennig.