Mae'r Cynulliad hwn:
1) Yn credu bod cyhoeddiad yr Adran Gwaith a Phensiynau ei bod yn bwriadu cau swyddfeydd lleol mewn nifer o drefi yn y cymoedd, Casnewydd a Gogledd Caerdydd yn gam niweidiol ar gyfer ein cymunedau ac nid yw yn gyson â chynllun gweithredu'r Cymoedd gan y bydd yn symud swyddi sy'n bodoli eisoes y tu allan i'r Cymoedd;
2) Yn cefnogi'r ymgyrch i gadw'r swyddi Adran Gwaith a Phensiynau hyn mewn trefi ar draws y cymoedd, Casnewydd a Gogledd Caerdydd;
3) Yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyhoeddi asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb; a
4) Yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i gadw'r swyddi hyn yng nghanol trefi, yn unol â strategaeth y cymoedd, gan eu bod yn elwa ar bresenoldeb y swyddi hyn.