OPIN-2018-0095 Cydnabyddiaeth undebau llafur yn siopau Aldi a Lidl (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn cydnabod y rôl hanesyddol y mae undebau llafur yn ei chwarae mewn cymdeithas a'r canlyniadau cadarnhaol sy'n deillio o gydfargeinio rhwng undebau llafur, cyflogwyr a chyflogeion unigol.

2. Yn mynegi pryder nad yw Aldi a Lidl yn cydnabod undeb llafur yn eu gweithle.

3. Yn cefnogi ymgyrch yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) ar gyfer cydnabod undebau llafur.

4. Yn galw ar Aldi a Lidl i gyfarfod ag undeb llafur USDAW i gychwyn trafodaethau ar gydnabod undebau llafur yn eu siopau.