OPIN-2018-0094 Dyfodol Grant Byw'n Annibynnol Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi'r toriadau a ddioddefwyd gan awdurdodau lleol dros y blynyddoedd diwethaf, a'r wasgfa ar gyllidebau gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru.

2. Yn nodi ymhellach bod erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn datgan y dylai pobl ag anableddau gael dewisiadau cyfartal i rai pobl eraill.

3. Yn canmol Llywodraeth yr Alban ar gyflwyno'r gronfa byw'n annibynnol llwyddiannus y mae pobl yn ymddiried ynddi ac y mae meini prawf cenedlaethol ar ei chyfer.

4. Yn credu y dylid cadw Grant Byw'n Annibynnol Cymru fel pecyn ariannu cenedlaethol â meini prawf cenedlaethol, gan sicrhau annibyniaeth y rhai sy'n ei derbyn, yn debyg i grant byw'n annibynnol yr Alban.