OPIN-2018-0093 Pythefnos trethi teg (9-24 Mehefin 2018)
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn croesawu pythefnos trethi teg sy'n dathlu cwmnïau/sefydliadau sy'n falch i dalu eu cyfran deg o drethi.
2. Yn mynegi pryder bod biliynau o bunnoedd ar goll o'r pwrs cyhoeddus bob blwyddyn oherwydd osgoi treth gorfforaeth.
3. Yn credu bod hyn yn achosi difrod oherwydd:
a) ni all busnesau bach gystadlu;
b) mae'n cyfrannu at anghydraddoldeb;
c) mae cwmnïau yn chwarae yn ôl eu rheolau eu hunain;
d) mae llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
4. Yn annog busnesau lleol i archwilio sut y gall y marc treth deg eu helpu i ddod yn rhan o rwydwaith sy'n arwain ar arferion cyfrifol, gan newid ein tirwedd dreth er gwell.