OPIN-2018-0091 Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/06/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn llongyfarch y Llu Awyr Brenhinol ar ei ganmlwyddiant.
2. Yn cydnabod rôl y Prif Weinidog o Gymru, David Lloyd-George, o ran sefydlu'r Llu Awyr Brenhinol fel yr awyrlu annibynnol cyntaf yn fyd-eang.
2. Yn cydnabod y dynion a'r menywod dewr o Gymru sy'n gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol y mae rhai ohonynt wedi gwneud yr aberth eithaf wrth wasanaethu eu gwlad.
3. Yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad y Llu Awyr Brenhinol a'i bersonél i ddiogelwch Cymru.
4. Yn croesawu effaith economaidd gorsafoedd y Llu Awyr Brenhinol i economi Cymru.
5. Yn nodi mai hwn yw 75 mlwyddiant gwasanaeth achub mynydd y Llu Awyr Brenhinol sydd â'i bencadlys yn RAF y Fali.