OPIN-2018-0090 Diwrnod aer glân Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/06/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1. yn nodi:
a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân
b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein iechyd - dengys ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sy'n 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru.
c) bod rhaid ymdrin â NO2 a mater gronynnol er mwyn mynd i'r afael â llygredd aer
2. Yn croesawu'r grŵp o elusennau a grwpiau â diddordeb sydd wedi ffurfio cynghrair o'r enw Awyr Iach Cymru.
3. Yn credu y dylid cymryd mwy o gamau i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a bod parthau aer glân yn hanfodol i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.