OPIN-2018-0089 Wythnos adsefydlu cleifion yr ysgyfaint 2018
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 05/06/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod mai 18 – 24 Mehefin 2018 yw wythnos gyntaf adsefydlu cleifion yr ysgyfaint.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd adsefydlu cleifion yr ysgyfaint fel ffordd cost effeithiol o ymyrryd i gefnogi pobl sy'n byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac chyflyrau eraill yr ysgyfaint. Mae'n gwella cryfder cyhyrau; yn helpu cleifion i ymdopi'n well â diffyg anadl; ac yn cefnogi gwell iechyd meddwl.
3. Yn cefnogi dyhead Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad cleifion i wasanaethau adsefydlu'r ysgyfaint drwy'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd i fuddsoddi mewn gwasanaethau adsefydlu i gleifion yr ysgyfaint o ansawdd uchel ledled Cymru.