OPIN-2018-0088 Wythnos gweithredu ar ddementia 2018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 16/05/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn cydnabod wythnos gweithredu ar ddementia (21-27 Mai 2018) fel amser pwysig i weithredu ac uno erbyn dementia.

2. Yn ymrwymo i ddod senedd sy'n gyfeillgar i bobl â dementia gyda holl Aelodau'r Cynulliad yn mynychu sesiynau gwybodaeth i ddod yn gyfeillion dementia erbyn mis Tachwedd 2018.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia i leihau stigma a chreu Cymru dementia-gyfeillgar.

Tanysgrifwyr