OPIN-2018-0086 Diwrnod Ewrop (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/05/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi mai 9 Mai yw diwrnod Ewrop.

2. Yn cydnabod pwysigrwydd yr UE o ran sicrhau heddwch.

3. Yn gresynu at y penderfyniad i adael marchnad sengl yr UE a'r undeb tollau ac effaith hyn ar Gymru.

4. Ymhellach yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu dinasyddiaeth Ewropeaidd dinasyddion y DU yn dilyn Brexit, gan ddileu ystod o hawliau ac diogeliadau a roddir i unigolion, gan gynnwys rhai yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod aelodaeth o'r farchnad sengl a hawliau dinasyddion i ddinasyddiaeth yr UE yn cael eu cadw os bydd y DU yn gadael yr UE.

Cyflwynwyd gan