OPIN-2018-0085 Bradychu cenhedlaeth y Windrush (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/04/2018

Mae’r Cynulliad hwn yn:

1. Cymeradwyo’r cyfraniad sylweddol a wnaed i gymunedau ledled Cymru gan ddinasyddion y Gymanwlad a gyrhaeddodd y DU yn y 70 mlynedd ers i’r MV Empire Windrush gyrraedd ym mis Mehefin 1948.

2. Nodi gyda phryder y problemau a achoswyd i genhedlaeth y Windrush yn sgil newidiadau ym mholisi mewnfudo Llywodraeth y DU a chamreolaeth y Swyddfa Gartref.

3. Cydnabod y gall y problemau hyn gynnwys anhawster yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, risg gynyddol o ddigartrefedd neu ddiweithdra a’r bygythiad o alltudiaeth.

4. Mynnu bod hawliau cenhedlaeth y Windrush yn parhau i gael eu cydnabod yn gyfreithiol heb oedi.