OPIN-2024-0399 Rhyfel Cartref Sbaen (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/04/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod 1 Ebrill yn nodi 85 mlynedd ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen.
2. Yn nodi ymhellach fod tua 200 o Gymry wedi ymuno â'r Frigâd Ryngwladol i amddiffyn Ail Weriniaeth Sbaen a etholwyd yn ddemocrataidd yn erbyn grymoedd ffasgaeth ac eithafiaeth asgell dde.
3. Yn credu bod gwasanaeth arwrol ac aberth y gwirfoddolwyr o Gymru yn enw rhyddid Sbaen yn parhau i fod yn enghraifft rymus ac ysbrydoledig o undod rhyngwladol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i goffáu gwirfoddolwyr Cymreig y Brigadau Rhyngwladol yn ffurfiol, ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u stori.