OPIN-2024-0394 Atal cynlluniau i droseddoli digartrefedd (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2024

Mae'r Senedd hon:
1. Yn credu na ddylai neb gael ei droseddoli am fod yn ddigartref.
2. Yn mynegi pryder am gynigion ym Mil Cyfiawnder Troseddol Llywodraeth y DU i gyflwyno pwerau'r heddlu yng Nghymru a Lloegr i garcharu pobl sy'n cysgu ar y stryd a rhoi dirwyon o hyd at £2,500 iddynt.
3. Yn credu y bydd y cynigion hyn yn gwthio pobl sy'n cael profiad o ddigartrefedd i ffwrdd oddi wrth gymorth.
4. Yn cefnogi galwadau gan Crisis a sefydliadau tai a digartrefedd eraill i Lywodraeth y DU ollwng y darpariaethau hyn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i helpu i atal y pwerau hyn rhag dod i rym yng Nghymru.